Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 14 Mai 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 12.03 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Dafydd Elis-Thomas AC Rhun ap Iorwerth AC Julie James AC Sandy Mewies AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Alice Gray, Chwarae Teg Donna Griffiths, CITB Yr Athro Niels Jacob, WIMCS Joy Kent, Chwarae Teg Emma Richards, Chwarae Teg Jane Richmond, The National Botanic Garden of Wales Dr Anita Shaw, Techniquest |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Morris (Ail Clerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC, Byron Davies AC a Keith Davies AC. Dirprwyodd Sandy Mewies AC ar ran Keith Davies AC.
2 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 1)
2.1.Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Anita Shaw, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Techniquest, yr Athro Niels Jacob, Pennaeth Adran Fathemateg, Prifysgol Abertawe, Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru a Jane Richmond, Pennaeth Dysgu a Dehongli Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
3 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 2)
3.1.Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg, Emma Richards, Rheolwr Datblygu Prosiectau Addysg, Chwarae Teg ac Alice Gray, Llysgennad STEM.
3.2 Byddai Chwarae Teg yn ystyried a oes unrhyw waith ymchwil wedi'i wneud sy'n dangos bod mamau sy'n dychwelyd i'r gwaith yn cael eu gorfodi allan o gyflogaeth neu'n cael eu diswyddo o ganlyniad i fethu â chyflawni eu rhwymedigaethau yn y gwaith yn ogystal â'u rhwymedigaethau fel rhiant.
4 Ymchwiliad dilynol i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (sesiwn 3)
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Donna Griffiths, Rheolwr Strategaeth Sgiliau Cymru, CITB
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau a ganlyn:
EBC(4)-13-14 (p.5) – Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch yr ymchwil i gostau parcio ceir
EBC(4)-13-14 (p.6) – Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch patrymau teithio yn ne-ddwyrain Cymru